Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 22 Ionawr 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:08 - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford Vaughan Gething Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle Nick Ramsay (Cadeirydd) Alun Ffred Jones Eluned Parrott David Rees Ken Skates |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Clare Hudson, BBC Cymru Wales Dr Jean King, Cancer Research UK Delyth Lloyd, Sefydliad Prydeinig y Galon Sion Clwyd Roberts, Teledwyr Annibynnol Cymru (Welsh Independent Producers) Felicity Waters, ASH Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Lara Date (Clerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Marc Wyn Jones (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r is-bwyllgorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Menter a Busnes i’r cyfarfod.
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar, a oedd yn hwyr yn cyrraedd am ei fod mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Busnes.
1.2 Hefyd, cafwyd ymddiheuriadau gan gynrychiolwyr Cynghrair Cynhyrchwyr Sinema a Theledu (PACT), nad oeddent yn gallu dod i roi tystiolaeth o dan eitem 2.
2. Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn Dystiolaeth 1
2.1 Cymerodd yr is-bwyllgorau dystiolaeth gan gynrychiolwyr BBC Cymru a Teledwyr Annibynnol Cymru.
2.2 Cytunodd y tystion i ddarparu rhagor o wybodaeth am y costau ynglwm wrth y rheoliadau, gan gynnwys: cost adleoli cynhyrchiadau’r BBC i Loegr i recordio golygfeydd dramatig sy’n cynnwys actorion yn ysmygu; costau am fod cynyrchiadau yn penderfynu peidio â dod i Gymru o ganlyniad i ddiffyg eithriad yn y ddeddfwriaeth; a rhagor o fanylion am y gost o efelychu ysmygu gan ddefnyddio technoleg CGI.
3. Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012- Sesiwn Dystiolaeth 2
3.1 Cymerodd yr is-bwyllgorau dystiolaeth gan gynrychiolwyr ASH Cymru, Sefydliad Prydeinig y Galon a Cancer Research UK.
3.2 Cytunodd yr is-bwyllgorau i chwilio am ragor o wybodaeth am effaith atal ysmygu ar setiau ffilm a theledu ar y diwydiannau ffilm a theledu yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.